Crist a gyfododd, gwag yw Ei fedd; -
Feirwon holl oesau'r byd,
llon fo eich gwedd:
Gwawr euraidd d'wynna, nos ymaith hed -
Brysiwch, ddisgyblion llon,
taenwch y gred!
Mawl fo'n ymdaenu;
byd llawn o hedd:
Heddyw cyfododd Crist, gwag yw Ei fedd!
Molwch, belydrau, dawnsiwch i gyd;
Cenwch, holl wyntoedd Duw,
fawl dros y byd.
Molwch Ef, flodau,
gwridog eich gwedd;
Awdwr eich tlysni chwi
gododd o'i fedd!
Gauaf ymgiliodd; gwenwch, bob un,
Cododd fel blod'yn Duw, -
Crist, bywyd dyn!
Gwelwch lle'r hunodd:
neb mwy fo'n brudd;
Mwy, yn lle prudd-der nos,
gwena mwyn ddydd!
Clywch! lleisiau engyl
ddisgyn o'r ne';
Ninnau a ganwn oll - Byw yw Efe!
cyf. David Adams (Hawen) 1845-1923
Tôn [9.10.9.10]: Crist a Gyfododd |
Christ arose, empty is his grave; -
Ye dead of all the ages of the world,
cheerful be your countenance:
A golden dawn shines, night flies away -
Hurry, cheerful disciples,
spread the belief!
May praise spreading;
a world full of peace:
Today Christ arose, empty is his grave!
Praise, ye rays, dance ye all;
Sing, all ye winds of God,
praise across the world.
Praise him, ye flowers,
ruddy your countenance;
The author of your prettiness
arose from his grave!
Winter retreated; sing ye, every one,
He arose like the flower of God, -
Christ, the life of man!
See where he slept:
no longer let anyone be sad;
Evermore, in place of the sadness of night,
shall smile the dear day!
Hear ye! voices of angels
descend from heaven;
Let us too all sing - Living is he!
tr. 2021 Richard B Gillion
|
|